Oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect newydd neu eisiau help i ddatblygu un sy’n bodoli eisoes? Rydych chi wedi dod i’r lle iawn!
Cefnogaeth
Sut gall Tyfu Caerdydd helpu gyda’ch syniad?
Un o brif amcanion Tyfu Caerdydd yw helpu pobl i gydweithio i greu a chynnal eu mannau tyfu eu hunain ar y cyd. P’un a yw eich gofod yn ysgol, lleoliad cymunedol, ardal breswyl neu fusnes, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o weithdai, hyfforddiant, mentora ac ymgynghori:

Gweithdai a Sgyrsiau
Gweithdai: Rydym ni’n cynnig gweithdai pwrpasol ar gyfer teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion, meithrinfeydd, rhwydweithiau a digwyddiadau.
Sgyrsiau: Trefnwch i ni ddod i’ch digwyddiad neu gynhadledd. Gyda 10 mlynedd o brofiad o dyfu cymunedau arobryn, rydym ni wrth ein bodd yn rhannu ein straeon, dysgu, llwyddiant a methiant mewn garddio cymunedol, rhagnodi cymdeithasol, gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion

Hyfforddiant
Rydym ni’n cynnig hyfforddiant pwrpasol, ymarferol i grwpiau a sefydliadau sydd am ddatblygu eu mannau tyfu a rennir eu hunain. Gan ddefnyddio 10 mlynedd o brofiad o addysgu a gweithio ochr yn ochr â phobl o bob cefndir, gallwn gefnogi grwpiau sy’n brofiadol iawn ac sydd eisiau datblygu syniadau neu gyfeiriadau newydd, neu’r rhai sydd newydd ddechrau ar eu taith dyfu.

Diwrnodau Corfforaethol
A allai eich tîm elwa o dreulio amser gyda’i gilydd? Gan weithio yn yr awyr agored, cefnogi gerddi cymunedol, ymgysylltu â natur a gyda’r naill a’r llall, rydym ni’n cynnig profiadau pwrpasol i grwpiau o hyd at 20 o gydweithwyr.

Ymgynghori
Ar gyfer grwpiau neu sefydliadau sy’n chwilio am gymorth tymor byr, canolig neu hirdymor pwrpasol rydym ni’n darparu gwasanaeth ymgynghori. Mae cleientiaid hyd yn hyn yn amrywio o grwpiau cymunedol yn Ne Cymru i’r GIG.
(Llun @nisephillips)