Creative Grow Well is back for Winter 2024!

Come and join us for FREE in the warm this winter for some friendly chat, nature based craft activities and to share some hot soup made with vegetables from our gardens. For more information click here. CY

 

Cymryd Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb ymuno mewn gardd gymunedol neu wirfoddoli i helpu eraill mewn gardd gymunedol?
Rydych chi wedi dod i’r lle iawn!

Beth yw gardd gymunedol?

Mae gardd gymunedol yn ardd a rennir neu’n ardal tyfu sy’n cael ei chynnal gan grŵp neu gymuned, er budd y gymuned.

Mae gan erddi cymunedol y pŵer nid yn unig i’n helpu i ddysgu sgiliau garddio, lliniaru tlodi bwyd a chynyddu bioamrywiaeth, ond hefyd i greu cymunedau gwydn a chefnogol. Maen nhw hefyd yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau parhaol.

Y rheswm rydw i’n mynychu’r ardd yw i ddysgu mwy am sut i dyfu llysiau a ffrwythau, gwneud ymarfer corff gwerth chweil a chael sgwrsio rhywfaint gyda phobl heblaw am fy mhartner. Rydyn ni’n cael hwyl gyda’n gilydd ac yn mwynhau cwmni ein gilydd… Mae pawb yn teimlo’n rhydd i sgwrsio. Ac mae yna rai sy’n sgwrsio mwy nag eraill!! (Gwirfoddolwr, Gardd Gymunedol Glan yr Afon)

Sut alla i gymryd rhan?

Gwirfoddoli!

Mae croeso i chi wirfoddoli gyda ni. Mae cymaint o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan, gwirfoddoli eich amser gyda Tyfu Caerdydd: cymryd rhan mewn sesiwn garddio gymunedol reolaidd, cefnogi gwirfoddolwyr eraill fel Gwirfoddolwr Arweiniol yn ein gerddi therapiwtig, gerddi cymunedol neu waith ysgolion, neu ymuno â’n bwrdd.

Darllenwch ymlaen am fwy o wybodaeth, neu os ydych chi’n chwilio am help ar gyfer eich prosiect neu syniad, cliciwch yma

Os ydych chi am gymryd rhan yn un o’n gerddi cymunedol, nodwch nad oes angen profiad garddio blaenorol, dim ond bod yn agored i ddysgu a rhoi cynnig arni.

Dewch i Ymuno â Ni

Ymunwch â Thîm Staff Tyfu Caerdydd!

Mae Tyfu Caerdydd yn tyfu! Rydym ni’n recriwtio drwy gydol y flwyddyn mewn amrywiaeth o rolau o weithwyr i staff sesiynol. Oes gennych chi ddiddordeb gwybod mwy? Cysylltwch â ni

Ymunwch â Bwrdd Ymddiriedolwyr Tyfu Caerdydd!

Mae gan Tyfu Caerdydd fwrdd gwych o ymddiriedolwyr. Gyda’i gilydd maen nhw’n gwrando, yn cefnogi, yn arwain, yn herio ac yn llywio’r sefydliad, gan gofio bod y rhai rydym ni’n gweithio gyda nhw wrth wraidd ein penderfyniadau. Rydym ni’n croesawu ymholiadau gan unrhyw un a allai fod â diddordeb ymuno â’r bwrdd. Sylwer, nid oes rhaid cael profiad o arddio! Yn hytrach, rydym ni’n croesawu’r rhai sydd ag amrywiaeth o gefndiroedd, sgiliau a phrofiadau, yn enwedig y rhai â nodweddion gwarchodedig a phrofiad byw.

© 2025 Grow Cardiff Registered Charity Number (England and Wales): 1161591 Privacy Policy Web Design & Development By Glue Studio