O egin bach i wreiddiau dwfn
Wedi’i lansio ym mis Mehefin 2015 gyda 10 mlynedd o weithdai tyfu a chymunedol arobryn yng Ngardd Gymunedol Glan yr Afon, ffurfiwyd Tyfu Caerdydd gan grŵp bach o bobl leol ddyfal sy’n ceisio cefnogi eraill i drawsnewid ardaloedd trefol di-fflach yn hybiau cynhyrchiol, llawn natur, llawn bwrlwm sy’n gwasanaethu eu cymuned.
Rydym ni’n mynd ati i geisio herio anghydraddoldebau trefol a gweithio gyda grwpiau difreintiedig lle mae pobl yn cael eu gwthio i’r cyrion oherwydd tlodi neu ddiffyg cyfle. Trwy ein prosiectau tyfu, ein nod yw cael effaith drawsnewidiol ar iechyd, unigedd ac unigrwydd corfforol a meddyliol pobl.
Mae ein dull ‘seiliedig ar asedau’ yn golygu ein bod yn dewis peidio â chanolbwyntio ar afiechyd neu broblemau, ond yn hytrach ysbrydoli a meithrin pobl, gan wireddu eu doniau a’u sgiliau. Wrth i erddi cymunedol dyfu, felly hefyd y bobl. Rydym ni am weld bywydau’n trawsnewid trwy arddio cymunedol, dod yn gysylltiedig, yn gefnogol, yn iachach, wedi’u grymuso ac yn llawen.