Addysg
Os ydych chi’n o feithrinfa, ysgol gynradd neu ysgol uwchradd sydd â syniad am dyfu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Newydd i arddio ac yn methu edrych ar ôl cactws? – Gallwn ni eich helpu chi!
Rhywfaint o brofiad o dyfu, ond chwilio am gefnogaeth a syniadau newydd? Chwiliwch amdanom ni!
Tyfwyr profiadol sy’n chwilio am ddatblygiad newydd? – Siaradwch â ni!
Gweithdai
Rydym ni’n gweithio’n helaeth gydag ysgolion a lleoliadau addysg i helpu pobl ifanc rhwng 2 a 25 mlwydd oed a’u hathrawon, i ymgysylltu â thyfu. Ein nod yw ysbrydoli a dangos yn ymarferol i’r genhedlaeth nesaf sut i dyfu a llwyddo i gynnal a datblygu gerddi eu hunain.
CyswlltMeysydd Chwarae Bwytadwy
Mae Meysydd Chwarae Bwytadwy wedi byrstio yn ysgolion Caerdydd!
Mae rhaglen Meysydd Chwarae Bwytadwy Trees for Cities yn cynnig ffordd fywiog, atyniadol, amlsynhwyraidd i ddysgu plant am dyfu a bwyta bwyd iach. Mae Tyfu Caerdydd yn partneru gyda Trees for Cities i ddarparu Meysydd Chwarae Bwytadwy ar draws ysgolion cynradd yng Nghaerdydd.
Darllenwch fwy am Feysydd Chwarae Bwytadwy yma.
Rydym ni wedi cyflawni 23 o brosiectau Maes Chwarae Bwytadwy yng Nghaerdydd
Gan ddefnyddio dull ysgol gyfan dros 12 mis, rydym ni’n darparu hyfforddiant ymarferol i athrawon a phlant. Trwy ein cefnogaeth, gall ysgolion gynnal gardd gynhyrchiol, bioamrywiol yn annibynnol ac yn llwyddiannus, sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd i Gymru.
“Mae dysgu yn yr awyr agored yn rhan annatod o’r Cwricwlwm i Gymru, ac mae’r Maes Chwarae Bwytadwy yn ein galluogi i ddilyn diddordebau’r dysgwyr. Mae wedi rhoi mwy o bwrpas i ni fynd â’r plant allan i’r awyr agored a gwneud gweithgareddau trawsgwricwlaidd gyda rhifedd/llythrennedd yn yr awyr agored, nad ydym efallai wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen. Mae’r cyfrifoldeb wedi cael ei drosglwyddo o ambell aelod o staff i ddull gweithredu ar draws y staff “ Athro, Ysgol Y Wern