Hoffech chi wneud gwahaniaeth parhaol i blant a phobl ifanc ar draws y ddinas – dysgu ysgolion sut i arddio a thyfu?
Mae Tyfu Caerdydd yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda Trees for Cities a Chyngor Caerdydd i addysgu cannoedd o blant ac athrawon sut i dyfu a chynnal eu gerddi ysgol eu hunain drwy’r rhaglen Meysydd Chwarae Bwytadwy. Rydym ni’n chwilio am ymgeiswyr am swydd gyffrous, ran-amser i ymgysylltu ag ysgolion cynradd ac uwchradd wrth iddynt ddechrau ar eu taith Maes Chwarae Bwytadwy yn 2024.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi cyflwyno’r rhaglen Meysydd Chwarae Bwytadwy, gan weithio ochr yn ochr ag athrawon a phlant, gan eu haddysgu sut i dyfu a chynnal eu gerddi ysgol bwytadwy a bioamrywiol eu hunain.
Oriau: 15 – 22.5 awr yr wythnos. Mae’r swydd yn 15 awr yr wythnos rhwng Ionawr a Chwefror, gan gynyddu i 22.5 awr yr wythnos rhwng Ionawr a Gorffennaf, cyfnod penodol, gyda’r disgwyliad o sicrhau cyllid pellach y tu hwnt i hyn. Rydym ni’n chwilio am ymgeisydd brwdfrydig, medrus a phrofiadol, gyda sgiliau cyfathrebu a chydlynu rhagorol, sy’n gallu cydlynu’n uniongyrchol ag ysgolion a darparu hyfforddiant garddwriaethol ymarferol i athrawon a phlant.
Cyflog: Gradd 2 – 2.5, £23,961 – £26,769 (pro rata) yn dibynnu ar brofiad
I gael rhagor o wybodaeth a swydd ddisgrifiad, e-bostiwch: [email protected]
Cais trwy CV a llythyr eglurhaol. Dyddiad cau: Dydd Llun 4ydd Rhagfyr
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 11 Rhagfyr