Gardd Gymunedol Glan yr Afon
Mae Gardd Gymunedol Glan yr Afon yn un o’r gerddi cymunedol hynaf yng Nghaerdydd. Wedi’i lleoli ar Randiroedd Parhaol Pontcanna, yng nghanol Caerdydd, mae’n lle gwych i gwrdd â phobl newydd o bob cefndir, dysgu am dyfu ochr yn ochr â’n gwirfoddolwyr anhygoel, cyfeillgar a phrofi llysiau blasus a bywyd gwyllt gwych gyda’ch llygaid eich hun! Mae’r ardd yn ganolfan flaenllaw ar gyfer tyfu organig, paramaethu, gan weithio mewn cytgord â natur, uwchgylchu ac ail-bwrpasu deunyddiau. Mae hefyd yn ymfalchïo mewn bod yn lle diogel, cyfeillgar, croesawgar i bobl o bob cefndir, oedran a phrofiad.
“Y rheswm pam rydw i’n mynychu’r ardd yw i ddysgu mwy am sut i dyfu llysiau a ffrwythau, gwneud ymarfer corff gwerth chweil a chael sgwrsio rhywfaint gyda phobl heblaw fy mhartner. Rydyn ni’n cael hwyl gyda’n gilydd ac yn mwynhau cwmni ein gilydd…mae pawb yn teimlo’n rhydd i sgwrsio… ac mae ‘na rai sy’n sgwrsio mwy nag eraill!! (Gwirfoddolwr Gardd Gymunedol Glan yr Afon)
Cwestiynau Cyffredin
Sut ydw i’n dod o hyd i’r ardd?
Sut ydw i’n dod o hyd i’r ardd?
Mae’r ardd wedi’i lleoli ar Randiroedd Parhaol Pontcanna, CF5 2YB, yn agos at Gaeau Pontcanna, ger canol y ddinas.
Pryd allaf fi ymweld?
Pryd allaf fi ymweld?
Mae croeso i ymwelwyr a gwirfoddolwyr bob dydd Mercher a dydd Gwener drwy gydol y flwyddyn rhwng 11am ac 1pm. Rydym ni hefyd ar agor ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis. I drefnu ymweliad neu holi am wirfoddoli, e-bostiwch: Riversidecommunitygdn@gmail.com
Pwy all ddod?
Pwy all ddod?
Pawb! Mae’r ardd yn croesawu pobl o bob oedran a chefndir. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o arddio i ymweld neu wirfoddoli.
Noder fod croeso i blant, ond rhaid i unrhyw un o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn. Mae croeso i oedolion agored i niwed neu oedolion sydd angen cymorth un-i-un fod yn bresennol, ond nodwch nad yw’r ardd yn gallu darparu cefnogaeth unigol ac felly mae’n rhaid i oedolion sydd angen cymorth unigol fynychu gyda gofalwr/aelod o’r teulu. Mae’r ardd yn croesawu pobl o bob gallu. Noder fod rhai llwybrau o amgylch y safle yn asglodion pren ac yn anwastad mewn mannau. Mae seddi ar gael yn y lloches yn yr ardd.
Mae croeso i grwpiau ymweld ac rydym ni’n aml yn cynnal diwrnodau corfforaethol, ymweliadau myfyrwyr, ac ati. Noder fod yn rhaid trefnu ymweliadau grŵp ymlaen llaw. E-bostiwch riversidecommunitygdn@gmail.com am fwy o wybodaeth.
A oes cost?
A oes cost?
Nid oes cost am ymweld neu wirfoddoli. Fodd bynnag, mae gennym ni flwch rhoddion ac rydym ni’n croesawu rhoddion yn fawr iawn! Nid yw’r ardd yn derbyn unrhyw arian gan yr awdurdod lleol. Mae’r holl arian yn cael ei godi drwy roddion a chodi arian gyda chefnogaeth gan Tyfu Caerdydd.
Mae’r prosiect yn codi tâl bach ar sefydliadau corfforaethol sy’n dymuno dod â grŵp o staff ar gyfer diwrnodau lles a gwirfoddoli
Beth ddylwn i ei ddisgwyl?
Beth ddylwn i ei ddisgwyl?
Mae Gardd Gymunedol Glan yr Afon yn lle anhygoel! Mae’r safle’n cynnwys:
- Gardd lysiau a ffrwythau mawr
- 2 polidwnnel mawr
- Lloches gardd fawr (ar gyfer hyd at 20 o bobl)
- Gwenynfa (gwenyn mêl)
- Pwll mawr
- Ardal gompostio
- Toiled compost (papur toiled ✅, hylif diheintio dwylo✅)
- Popty Cob
- Gardd perlysiau
- Mae croeso mawr i ymwelwyr a gwirfoddolwyr eistedd, sgwrsio a chael paned gyda’r tîm
- Mae gwirfoddolwyr rheolaidd yn mynd â chynnyrch blasus ac organig adref gyda nhw drwy gydol y flwyddyn
“Rydyn ni wedi bod yn elwa dros y misoedd diwethaf drwy allu mynd â llawer o ffrwythau a llysiau hyfryd rydyn ni wedi’u tyfu adref. Rwy’n credu bod hyn wedi helpu i roi ymdeimlad o gyflawniad i ni, trwy ddangos i ni, er bod amseroedd wedi bod yn anodd … dylem ni ganolbwyntio ar y pethau y gallwn ni eu gwneud yn hytrach na’r hyn na allwn ei wneud “
Gwirfoddolwr, Gardd Gymunedol Glan yr Afon
Gwenyn yng Ngardd Gymunedol Glan yr Afon
Ydw i’n clywed suo? Ydych! Nod yr ardd yw bod mor gyfeillgar i fywyd gwyllt â phosibl ac mae ein tîm cadw gwenyn yn gofalu am wenyn mêl yr ardd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r safle’n cynnwys gwenynfa wedi’i ffensio (cychod gwenyn) y mae croeso i ymwelwyr a gwirfoddolwyr gael gwybod mwy amdanynt. Mae’r tîm cadw gwenyn yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn croesawu unrhyw un a allai fod â diddordeb ymuno â’r tîm, i gysylltu â ni, p’un a ydych chi’n brofiadol neu ddim ond yn chwilfrydig: beesriverside@gmail.com
Cysylltwch â ni neu trefnwch eich ymweliad!