Wrth i erddi cymunedol dyfu,
felly hefyd y bobl
Tyfu Caerdydd ydym ni. Ein cenhadaeth yw ysbrydoli pobl i ddefnyddio garddio cymunedol nid yn unig i dyfu llysiau, perlysiau, coed a blodau gwych, ond trwy hyn i adeiladu cymunedau gofalgar a chynhwysol lle gall pawb ffynnu.
Tyfu Caerdydd ydym ni
Wedi’i sefydlu gan bobl leol ar gyfer pobl leol yn 2015, ein gweledigaeth yw gweld bywydau’n cael eu trawsnewid trwy arddio cymunedol yn unigolion a chymunedau llawen, cysylltiedig a chefnogol, iach a grymus; gyda gerddi llawn bywyd gwyllt, a chynnyrch blasus, y gall pawb ei rannu.
What We Do
- Cefnogi rhagnodi cymdeithasol ierddi cymunedol therapiwtig ar gyfer iechyd a lles
- Datblygu Meysydd Chwarae Bwytadwy & rhaglenniar gyfer meithrinfeydd, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd
- Mentora a chefnogi community gerddi cymunedol
- Darparu hyfforddiant, gweithdai ac ymgynghoriaeth
Garddio ar gyfer Iechyd a Lles
Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r GIG a sefydliadau iechyd cymunedol ar ein prosiect rhagnodi cymdeithasol arobryn, Tyfu’n Dda, sy’n helpu pobl mewn angen, i adfer a ffynnu
Stori Geoff
18 mis yn ôl mi gefais i ddwy strôc – un yn strôc fawr wnaeth wir amharu arnaf fi. Roeddwn i’n teimlo’n eithaf ar goll i fod yn onest. Roedd dod o hyd i’r lle hwn yn fendith a dydw i ddim yn garddio, ddim o gwbl, ddim o bell ffordd. (Gwirfoddolwr, Prosiect Tyfu’n Dda)
Cefnogaeth i’ch Ysgol neu Feithrinfa
Rydym ni’n gweithio gydag ysgolion i ddatblygu mannau tyfu ac ymgysylltu â phlant o 2 – 17 mlwydd oed mewn tyfu cymunedol. I gael gwybod mwy am ein gwaith gydag ysgolion, neu sut y gall eich ysgol weithio gyda ni, ewch i’n tudalennau addysg.
Ydych chi eisiau cael eich dwylo yn fudr?!
Darganfyddwch sut y gallwch chi ymuno â gardd gymunedol neu wirfoddoli gyda ni. Cyfleoedd i unigolion a grwpiau gymryd rhan o fyfyrwyr i sefydliadau cymunedol a sefydliadau corfforaethol.
Angen help ar gyfer eich prosiect neu eich syniad?
Eisiau dechrau gardd gymunedol? Eisoes yn tyfu, ond eisiau gwneud rhywbeth gwahanol? Darganfyddwch sut i ddatblygu eich prosiect mewn ffordd newydd. Rydym ni’n cynnig hyfforddiant ac ymgynghoriaeth bwrpasol i sefydliadau ac unigolion o grwpiau bach, lleol newydd, i sefydliadau yn y sector cyhoeddus a sefydliadau corfforaethol.
Roedd y gweithdai’n ardderchog, yn ysbrydoledig iawn…. Fel ysgol, rydym ni’n pwysleisio…dysgu yn yr awyr agored ac mae’n bendant yn fuddiol i’n dysgwyr
Athro, Ysgol Gynradd Herbert Thompson
Gweithdai